Ystalyfera Uwchradd
Croeso i Ysgol Gymraeg Ystalyfera uwchradd, ysgol cyfrwng Cymraeg sydd â hanes cyfoethog, tra'n edrych i'r dyfodol.
Mae'r ysgol, Ysgol Gymraeg Ystalyfera – Bro Dur bellach yn ei phumed degawd gyda dros 1,500 o ddisgyblion, ac mae ein chwaer-ysgolion, Llanhari (1974); Y Strade (1977); Gŵyr (1984); BrynTawe (2003); Llangynwyd (2008) a Bro Dur (2018) wedi esblygu'n naturiol o'r dechrau hanesyddol hwnnw ym mis Medi 1969.
Rydym yn falch o'n traddodiad, sy'n ymestyn dros hanner can mlynedd. Yn ystod y cyfnod hwn rydym wedi dathlu llwyddiannau ein cyn-fyfyrwyr mewn cynifer o feysydd nodedig fel y maes chwaraeon, yn y Celfyddydau, busnes a'r byd academaidd ac mewn amrywiaeth o feysydd galwedigaethol. Mae llwyddiant rheolaidd a pharhaus ein myfyrwyr mewn arholiadau allanol, yn ogystal ag o fewn llu o feysydd allgyrsiol yn dyst i'r traddodiad rhagorol hwnnw.
Lleolir Ysgol Gymraeg Ystalyfera ym mhentref Ystalyfera ar ben cwm hardd Abertawe. Rydym yn gwasanaethu dalgylch mawr sy'n ymestyn o Frynaman yn y gorllewin i Drebannws yn y de ac mae nifer cynyddol o ddisgyblion yn ymuno â ni o dde Powys a dwyrain Sir Gaerfyrddin.
Rydym yn ysgol hapus a llwyddiannus iawn. Mae canlyniadau cyson ar draws pob cyfnod allweddol, lefelau trawiadol o werth ychwanegol a lefelau uchel iawn o les yn cyfuno i greu amgylchedd lle gall disgyblion lwyddo i fod eu gorau o fewn diwylliant ysbrydoledig a chefnogol.
Os hoffech ymuno â ni, neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Diolch
Mrs Delyth Spurway