Chweched Dosbarth
Pleser yw cyflwyno’r wybodaeth hon i chi yn cynnwys holl fanylion cyrsiau a bywyd yn y Chweched Dosbarth, yng Nghanolfan Gwenallt. Yma, gyda ni, cewch y cyfle gorau i ddilyn eich llwybr dysgu chi.
Mae bod yn aelod o Canolfan Gwenallt yn fraint ac rydym yn ymfalchiio yn ansawdd y bobl ifanc sydd yn ymuno â ni. Maent oll yn arweinwyr, yn fodelau rôl ac yn unigolion sydd â chyfraniad allweddol i wneud i fywyd yr ysgol. Fel ysgol 3-18 ein myfyrwyr hŷn sydd yn gosod y safonau, rhain yw’r bobl sydd yn pontio rhwng y disgyblion iau ac athrawon, maent yn cymryd rolau o gyfrifoldeb megis:
- bydîs i ddisgyblion newydd blwyddyn 7,
- mentoriaid darllen i ddisgyblion CA3
- swyddogion arwain a rheoli
- capteniaid llŷs
Heb os, mae’r rhaglen allgyrsiol yn gyfoethog ac yn amrywiol iawn, yn cynnig cyfleoedd i unigolion ddatblygu sgiliau cymdeithasol, arweinyddol a chyd-weithio. Mae ein tîm rygbi XV 1af yn hynod llwyddiannus, mae gennyd dimoedd pel-fasged, pel-rwyd, pel-droed. Fel canolfan berfformio adnabyddus, mae cyfleoedd di-ri i fod yn rhan o grwpiau corawl, offerynol, a chyflwyniadau dramatig.
Mae ein cynnig academaidd yn gyfoethog, mae canlyniadau myfyrwyr Canolfan Gwenallt gyda’r gorau ac yn ddi-os, mae prysurdeb bywyd bob dydd yn y chweched - fel swyddogion ac arweinwyr yn gyffrous dros ben! Mae myfyrwyr Canolfan Gwenallt yn gadael i rai o brif golegau Cymru a Phrydain i astudio ar y lefel uchaf a dros y blynyddoedd diwethaf rydym wedi llwyddo i sicrhau lle i bron pob un myfyriwr yn un o’u prif ddewisiadau ar gyfer Addysg Uwch. Rydym yn ymfalchio yn ei darpariaeth i fyfyrwyr 16+ - dewis eang o gyrsiau traddodiadol, BTEC a galwedigaethol. Mae’r dewisiadau yn cynnwys dros 30 o gyrsiau gwahanol - o Ffiseg i’r Gymraeg, Cymdeithaseg i Wasanaethau Cyhoeddus, Peirianneg, Hanes a Drama. Byddwch hefyd yn astudio ar gyfer y Fagloriaeth Gymreig sy’n gyfle ardderchog i sicrhau tystysgrifau ymhob un o’r Sgiliau Allweddol a chyfleoedd gwych i gydweithio ar sawl prosiect diddorol.
Edrychaf ymlaen yn fawr iawn at eich croesawu i Chweched Dosbarth Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur a gobeithio y byddwch yn mwynhau pob un o’r cyfleoedd sydd ar gael yng Nghanolfan Gwenallt. Os hoffech drafod unrhyw un o’r opsiynau posib sydd ar gael cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth.
Mae tim profiadol yr ysgol ar gael bob amser i’ch cynghori a’ch helpu. Fe gewch drafod eich opsiynau ar gyfer y dyfodol a meithrin sgiliau a fydd yn werthfawr yn y gweithle. Ein nôd yw darparu’r gynhaliaeth a’r addysg orau i bob unigolyn fel bod ein myfyrwyr yn barod i gamu ymlaen i’r gweithle, i brentisiaeth neu i’r brifysgol.
Os hoffech fwy o wybodaeth neu os hoffech drafod unrhyw fater ymhellach, cofiwch gysylltu â mi. Edrychwn ymlaen at eich croesawu i’r Chweched!
Dymuniadau da,
Mr Emyr Evans
Pennaeth y 6ed / Pennaeth Cynorthwyol