Rhaglen Bontio Bro Dur
Rydyn ni mor ffodus i gydweithio â thair ysgol gynradd wych yma yn Ne Sir Castell Nedd Port Talbot – Ysgol Gymraeg Rhosafan, Ysgol Gymraeg Tyle’r Ynn ac Ysgol Gynradd Gymraeg Castell Nedd – i sicrhau cyfres o weithgareddau pontio llwyddiannus – o ran lles a chwricwlaidd ac academaidd.
Ein bwriad yw fod pob disgybl yn gwbl gyfarwydd ag Ysgol Gymraeg Bro Dur erbyn iddyn nhw ein cyrraedd ym Mlwyddyn 7. Golyga hyn fod athrawon yr ysgol yn ymweld â’r ysgolion cynradd yn gyson (nid yn unig ym Mlwyddyn 6) a bod disgyblion cynradd yn cael cyfleoedd i ymweld â’r ysgol ar amrywiol droeon cyn iddyn nhw gwblhau eu cyfnod yn yr ysgol gynradd.
Mae’n bwysig eich bod chi fel rhieni yn cael cyfle i ymweld â’r ysgol – ac mae hyn yn digwydd ar Noson Agored pob mis Medi i rieni Blwyddyn 6 ac hefyd i’r Noson Wybodaeth yn yr haf cyn i’r disgyblion ein cyrraedd.
Rydw i’n gweithio’n agos iawn gyda Miss Angharad Ellis, Pennaeth Cynnydd Blwyddyn 7 i sicrhau fod wythnosau cyntaf ein disgyblion yma ym Mro Dur yn rhai hapus a bodlon. Rydyn ni’n ymwybodol y bydd gennych fel rhieni gwestiynau a rhai pryderon yn ystod y cyfnod newydd a chyffrous hwn felly anelwn i fod yn hygyrch i chi yn ystod y cyfnod cyn i’r disgyblion ein cyrraedd a’u cyfnod yma yn yr ysgol.
Os ydych am sgwrs ar unrhyw adeg cysylltwch â fi neu Miss Angharad Ellis drwy ebostio’r cyfeiriadau ebost isod neu drwy ffonio’r ysgol (01639 502895).
Edrychwn ymlaen i gydweithio â chi,
Miss Kath Jones Pennaeth Cynorthwyol (Cyfrifoldeb dros Bontio) |
|
Miss Carys Hughes (Pennaeth Cynnydd Blwyddyn 7) |