Cynhwysiant a Lles
Yma yn Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur, rydym yn cydnabod bod y rhesymau dros dangyflawni yn gymhleth a gall llawer o rwystrau ddeillio o amgylchiadau y tu hwnt i reolaeth y dysgwr.
Drwy ein darpariaeth Cynhwysiant a Lles, ein nod yw sicrhau amgylchedd sefydlog, cadarnhaol a chefnogol sy'n annog dysgwyr i gyflawni'n academaidd ac yn bersonol. Mae pawb yn gwybod bod lles yn arbennig o bwysig i blant a phobl ifanc. Credir ei fod yn dylanwadu ar y ffordd y mae unigolion yn ymdopi â digwyddiadau bywyd allweddol fel straen, trawma ac afiechyd corfforol.
Mae ein staff yn gweithio gyda dysgwyr i ddatblygu hunanymwybyddiaeth, hunanddelwedd gadarnhaol, dealltwriaeth o'u cryfderau academaidd a'u harddulliau dysgu unigol fel eu bod yn cael eu grymuso drwy eu llwyddiannau dilynol. Darperir pob cyfle i'n dysgwyr gyflawni ac mae staff yn atgyfnerthu camau cadarnhaol a wneir gan ein dysgwyr ac yn eu dal yn atebol am y targedau y cytunwyd arnynt.
Atgoffir dysgwyr yn gyson y gallant effeithio ar eu dyfodol yn yr ysgol drwy weithio i gyrraedd eu potensial.
Y Gilfach Ystalyfera
'Stafell Stwnsh Ystalyfera
Cynnydd Bro Dur
Y Gorwel Bro Dur
|
|