Skip to content ↓

Cynnydd Bro Dur

Tîm Cynnydd

Croeso i bawb i dîm Cynhwysiant a Lles Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur. Ein bwriad yw cefnogi eich plentyn yn emosiynol ac yn gymdeithasol ar hyd ei daith yn yr ysgol boed ar ffurf cefnogaeth yn y dosbarth, trwy raglenni ymyrraeth grŵp bach penodol neu gefnogaeth 1:1 ddwys. Gobeithiwn yn fawr y bydd y wybodaeth a gynhwysir yma yn eich helpu i ddod i'n hadnabod a'n rôl wrth gefnogi eich plentyn.

Cymerwch olwg ar ein grŵp cefnogi Iechyd Meddwl a Lles ar facebook:

https://www.facebook.com/groups/803223010261722

 

Gweledigaeth

Gweledigaeth y Tîm Cynnydd yw sicrhau bod ein disgyblion yn cael y gefnogaeth emosiynol sydd ei angen arnynt i ddatblygu sgiliau bywyd a dygnwch. Mae gwaith y Tîm Cynnydd wedi bod yn hanfodol bwysig ers i ni ymateb i’r heriau sydd wedi wynebu ein dysgwyr yn sgil pandemig Covid-19. Mae’r tîm yn defnyddio amrywiol stategaethau sydd wedi eu teilwra at anghenion yr unigolyn i sicrhau fod ein holl ddysgwyr mewn sefyllfa i wireddu eu potensial yn llawn.

Staff

Mr Tomos Griffiths yw ein Swyddog Cynnydd yn Ysgol Gymraeg Bro Dur ac ers iddo ymuno â’r ysgol ym Medi 2019 mae llawer o ddysgwyr wedi elwa’n fawr o’r gefnogaeth emosiynol ac academaidd y mae’r rhaglenni y mae Mr Griffiths yn eu darparu wedi eu cynnig. Mae Mr Griffiths yn gweithio o ystafell Dic Penderyn ac rhai o enghreifftiau o’r rhaglenni a’r gweithgaddau y mae Mr Griffiths yn  gwneud gwaith 1:1 gyda disgyblion, helpu a gwaith Ysgol, trafod emosiynau, cydweithio gyda’r cynradd a’r broses pontio Bl 6/7 cydweithio ar brosiectau fel Ysgolion Coedwig, yr Elyrch, Parc Margam, Rewise, Cri’r Gwyllt ayb. yn ogystal  a chydweithio gydag asiantaethau iechyd Meddwl.

 

 

Yn wythnosol, mae Mrs Sara Jones, Cydlynydd Lles a Iechyd Meddwl Ystalyfera-Bro Dur yn cynnal gweithdai gyda disgyblion o Fro Dur. Rydym yn falch iawn o elwa o arbenigedd Mrs Jones yn y maes hwn wrth iddi gefnogi ein dysgwyr i siarad a rhannu problemau a chynnig arweiniad , cydweithio ar y broses pontio yn ogystal ag integreiddio rhai disgyblion yn ol i’r ysgol yn sgil y Pandemig.

 

 

 

Rydyn ni’n falch iawn o groesawu Miss Rachel Morgan i ymuno â’r Tîm Cynnydd yn rhan amser. Mae Miss Morgan yn gweithio gyda disgyblion iau yr ysgol gan ganolbwyntio ar ddatblygu hyder, dygnwch a strategaethau meddwl trwy ddefnyddio amrywiaeth o ymyrraethau gwahanol gan gynnwys cymorth academaidd a thrwy gelf a chrefft.

 

 

Miss Bobbie Rees yw ein Cynghorydd Gyrfaoedd. Mae Miss Rees ar gael ar gyfer cyfarfodydd wyneb yn wyneb gyda myfyrwyr yn yr ysgol, hyd yn oed ar ôl iddynt adael pe baent yn hoffi cael arweiniad ar eu camau nesaf. Mae apwyntiadau ar gael yn uniongyrchol gyda Miss Rees.

 

Cysylltiadau allanol

The Cynnydd Team works very closely with the school's Child Protection Officer and external agencies such as the County Welfare Team and Social Services to ensure the best possible care for our pupils so that our learners and their families get the support they need within the school's circumstances.

Cysylltiadau allanol

Mae’r Tîm Cynnydd yn gweithio yn agos iawn gyda Swyddog Diogelu Plant yr ysgol ac asiantaethau allanol megis Tîm Lles y Sir a’r Gwasanaethau Cymdeithasol er mwyn sicrhau y gofal gorau i’n disgyblion er mwyn sicrhau bod ein dysgwyr a’u teuluoedd yn cael y gefnogaeth sydd eu hangen arnynt o fewn amgylchiadau’r ysgol.

Llwyddo / SWEET

Mae'r cymhwyster SWEET yn rhaglen arloesol a diddorol. Rydym yn darparu’r adnodd Twf a Lles Personol SWEET (PGW), sy’n cefnogi cyflwyno cymwysterau BTEC Lefel 1 a 2 mewn Twf Personol a Lles. Mae'r cymhwyster hefyd yn anelu at ddarparu dewislen o gymwysterau ychwanegol gan gynnwys Hylendid Bwyd Lefel 1, Cymwysterau Agored Cymru, yn ogystal ag addysgu sgiliau gwerthfawr i helpu myfyrwyr i fyw bywydau hapusach, iachach a mwy llwyddiannus. Mae’n creu sgyrsiau difyr am faterion mawr bywyd, ac yn helpu dysgwyr i gael gwell gwybodaeth amdanyn nhw eu hunain a’r byd o’u cwmpas.

 

Prosiectau Ymyrraeth

Bwriad yr adran yw creu pecynnau pwrpasol er mwyn cefnogi anghenion unigol ein disgyblion. Rydym hefyd yn gweithio’n agos gydag asiantaethau allanol er mwyn darparu gweithgareddau allgyrsiol sy’n rhoi gwerth ychwanegol i brofiad addysgol ein disgyblion yma yn Ysgol Gymraeg Bro Dur

 

Asiantaethau Allanol

 

Rhai o luniau Prosiect Hwyl Haf 2021

               

       

Sut i gysylltu â ni

Os ydych chi eisiau gwybod mwy am gynhaliaeth y Tîm Cynnydd neu eich bod yn credu byddai eich plentyn yn elwa o weithio gyda’r Tîm Cynnydd, cysylltwch â Phennaeth Cynnydd eich plentyn i drafod.

Rhif ffôn yr ysgol: 01639 502895

Address Cyfeiriad

Ysgol Gymraeg Ystalyfera
Heol Ynysydarren
Ystalyfera
Castell-nedd Port Talbot
SA9 2DY

Phone Ffôn

(01639) 842129

Email Ebost

Address Cyfeiriad

Ysgol Gymraeg Ystalyfera
Heol Ynysydarren
Ystalyfera
Castell-nedd Port Talbot
SA9 2DY

Phone Ffôn

(01639) 846900

Email Ebost

Address Cyfeiriad

Ysgol Gymraeg Bro Dur
Seaway Parade
Sandfields
Port Talbot
Neath Port Talbot
SA12 7EQ

Phone Ffôn

(01639) 502895

Email Ebost