Ein Gweledigaeth
Rydym...
. . . yn PERTHYN i’r gymuned ysgol, y gymuned ehangach a Chymru. Mae’r gymuned ysgol yn holl bwysig i ni ac mae ein cwricwlwm yn magu’r ymdeimlad o berthyn trwy’r gwaith rydym yn cyflawni. Mae ein cymuned ysgol yn gynhwysol ac rydym yn cyd-weithio ac yn annog ein gilydd trwy’r amser i lwyddo. Rydym hefyd yn perthyn i’n cymunedau lleol ac yn gweithio’n galed i gyfrannu’n bositif atynt.
. . . yn YMHOLGAR ac rydym yn mwynhau her. Rydym yn awyddus i holi cwestiynau mawr a chwilio am atebion gyda’n gilydd. Rydym yn weithredol wrth ddysgu ac rydym yn datblygu corff eang o sgiliau a gwybodaeth newydd, cyffrous. Mae bod yn ymholgar yn ein galluogi i feddwl yn feirniadol a datrys problemau gan feddwl yn ehangach a chreadigol am ein gwaith.
. . . yn GYMREIG. Rydym yn Gymry balch sy’n gwerthfawrogi ac yn parchu ein hanes, iaith a diwylliant. Ni yw Cymry’r dyfodol a’n cenhadaeth ni yw gwarchod, hybu a thyfu’r iaith Gymraeg trwy gyfrannu at y gymdeithas Cymreig ehangach.
. . . yn ANGERDDOL. Rydym yn angerddol am ein cyfraniad i fywyd a gweithgareddau’r ysgol wrth ddesg, ar y maes neu ar lwyfan. Defnyddiwn yr angerdd yma i yrru ni ymlaen at lwyddiant.
. . . yn ANELU’n uchel ac rydym yn deall bod cyfleoedd di-ri ar gael i ni yn ein gyrfa ysgol ond hefyd wrth i ni adael yr ysgol. Mae gennym ddyheadau uchelgeisiol a gweithwn yn barhaus er mwyn gwireddu’r dyheadau yma.
. . . yn WYDN. Rydym yn wynebu heriau, ond rydym yn gweithio’n ddiwyd i’w goresgyn. Datblygwn yn sgiliau fel rhan o’r cwricwlwm i reoli ein hunain a datblygu hyder yn ein gallu i feddwl yn greadiol a datrys ein problemau yn annibynnol. Ar adegau, rydym yn methu, ond rydym yn deall bod hyn yn rhan o’r daith dysgu, a defnyddiwn ein meddylfryd twf i ddyfalbarhau tan i bob un ohonom lwyddo.
. . . yn ARWEINWYR. Mae pob un ohonom yn cael cyfleoedd i arwain. Mae disgyblion yn arwain eu dysgu eu hunain, gan gymryd perchnogaeth dros eu cynnydd eu hunain mewn gwahanol feysydd. Mae cyfleoedd di-ri i arwain mewn pwyllgorau, mewn gweithgareddau allgyrsiol a thu fewn i’r dosbarth. Mae pob un athro yn arweinydd yn yr ysgol – yn arwain y disgyblion yn eu cwmni i lwyddiant ac yn arwain a rhannu arbenigedd gydag athrawon eraill, gyda’r nod o ddarparu’r addysg a phrofiadau o’r safon uchaf.
. . . yn DDAWNUS mewn ffyrdd amrywiol. Mae gennym ni i gyd ein doniau ac yn Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur, dathlwn ddoniau pob dysgwyr, boed yn ddoniau academaidd, creadigol, ymarferol neu cymdeithasol. Ein nod pennaf yw adnabod a meithrin doniau unigol, trwy ymgymryd â phrofiadau cyfoethog a perthnasol. Trwy adnabod, dathlu a rhannu ein doniau, mae ein cymuned yn lle llawer cyfoethogaf.