Arweinwyr Cynnydd a Lles Bro Dur
Gweledigaeth
Hyderwn fod ein strwythur lles a chynhwysiant gadarn a thrylwyr sydd yn ganolog i’n gweledigaeth fel ysgol yn sicrhau bod ein disgyblion yn teimlo’n ddiogel ar bob achlysur ac yn ymwybodol iawn o’n disgwyliadau fel ysgol.
Mae’n tîm bugeiliol yn sicrhau fod pob disgybl yn cael ei adnabod fel unigolyn gan roi ei gynnydd a’i les yn flaenoriaeth i ni fel ysgol ar bob achlysur.
Fel y gwyddoch, mae’r berthynas agos ac adeiladol sydd rhwng pob dysgwr a’i Diwtor Personol yn rhan allweddol o’r gwaith bugeiliol hwn a gallwch gyfathrebu gyda Thiwtor Personol eich plentyn gan ddefnyddio Trefnydd Personol y Dysgwr.
Serch hynny, rydym yn ymwybodol y bydd adegau prin yn codi yn ystod cyfnod mwyafrif ein dysgwyr yn yr ysgol pan fyddwch yn teimlo bod angen cysylltu â’r ysgol er mwyn cael sgwrs am lwyddiannau, pryderon neu i rannu gwybodaeth am eich plentyn. Ar yr adegau hyn, mae croeso i chi gysylltu gyda Phennaeth Cynnydd a Lles eich plentyn.
Mae’r Pennaeth Cynnydd a Lles (gweler eu henwau a’r blynyddoedd isod) sydd yn darparu gofal ac arweiniad ar gyfer pob dysgwr o fewn ei ofal/gofal. Byddan nhw yn cwrdd â’r dysgwyr yn wythnosol, yn cydlynu gwaith y Tiwtoriaid Personol, yn monitro cynnydd pob dysgwr yn y flwyddyn, yn ymdrîn â materion disgyblaeth ac yn ddolen gyswllt rhwng yr ysgol â’r cartref. Mae’r tîm brwdfrydig a gofalgar yma yn cael ei arwain gan Ms Kath Jones, y Pennaeth Cynorthwyol sydd â chyfrifoldeb dros Ddiogelu Plant, Cynhwysiant a Lles.
Blwyddyn 7 | Miss Carys Hughes | HughesC932@hwbcymru.net | |
Blwyddyn 8 | Miss Angharad Ellis | EllisA137@hwbcymru.net | |
Blwyddyn 9 | Miss Bethan Sleep | SleepB2@hwbcymru.net | |
Blwyddyn 10 | Mr Jac Donovan | DonovanJ36@hwbcymru.ne | |
Blwyddyn 11 | Miss Catrin Roberts | RobertsC729@hwbcymru.net |