Siarter Iaith Gymraeg
Mae'r Gymraeg yn un o drysorau Cymru. Mae'n rhan o'r hyn sy'n ein diffinio fel pobl ac fel cenedl. Uchelgais Llywodraeth Cynulliad Cymru yw gweld nifer y bobl sy'n gallu mwynhau siarad a defnyddio'r Gymraeg yn cyrraedd miliwn erbyn 2050.
Prif nod y Siarter yw i ysbrydoli a chymell ein disgyblion i fod yn Gymry balch. Fel rhan o'm nodau rydym yn annog defnydd ffurfiol ac anffurfiol o'r Gymraeg, yn cynnal gweithgareddau sydd yn sbarduno disgyblion e.e. cyfleoedd i gyfansoddi cerddi a chaneuon drwy gyfrwng y Gymraeg; astudio'n cynefin a hanes Cymru; cynnal gwaith project byw o fewn ein hardal leol a chynnwys y gymuned ysgol a'r gymuned ehangach yn ein cynlluniau a chynnal cystadlaethau a darparu gwobrau am ymdrechion disgyblion. Rydym yn cymryd pob cyfle i ddathlu'r Gymraeg a Chymru.
Ar hyn o bryd, mae'r Adran Uwchradd yn anelu am y Wobr Efydd, a'r Adran Gynradd yn anelu am y Wobr Aur. Rydym yn cofio ar bob achlysur bod y Gymraeg yn perthyn i bawb. Am wybodaeth bellach, gweler y linc i wefan y siarter Iaith.
Cliciwch yma er mwyn gweld ein gwefan Siarter Iaith ysgol Sir Castell Nedd Port Talbot.
Dyma ein 'Criw Cymraeg' Adran Gynradd.
Cliciwch yma ar gyfer gwefan Canolfan Iaith y Cwm