Ein Gweledigaeth
Nod ac Amcanion yr Ysgol
Mae arwyddair ein hysgol Dysgu Gorau Dysgu Byw yn cynrychioli ein hathroniaeth graidd sy'n llywio profiad unigol pob disgybl yn Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur.
Credwn fod ehangu gorwelion yn allweddol i annog llwyddiant yn ein disgyblion, gan sicrhau nad oes unrhyw rwystr i'w cynnydd. Ein cenhadaeth yw cynhyrchu disgyblion cyflawn sy'n gallu mynd ymlaen i fod yn unigolion llwyddiannus mewn cymdeithas drwy gydol eu bywydau. Credwn y cyflawnir hyn drwy greu cymuned goddefgar, ystod eang o gyfleoedd, a'r hyblygrwydd i addasu i anghenion pob unigolyn.
Ein nod yw:
- sicrhau'r cyfle gorau i bob disgybl yn yr ysgol gyrraedd ei botensial, fel y gallant fyw bywydau bodlon ac effeithiol fel dinasyddion gwerthfawr i Gymru;
- sicrhau hyder a rhuglder dwyieithog ein plant, gan roi iddynt ddwy iaith werthfawr ac angenrheidiol;
- datblygu unigolion iach sydd â hunangred sicr;
- meithrin yn ein plant ymdeimlad o angerdd a balchder yn ein hanes a'n diwylliant;
- sicrhau bod ganddynt werthoedd cadarn yn seiliedig ar degwch a chyfiawnder.
Credwn y cyflawnir hyn drwy:
- Cwricwlwm eang a heriol
- Rhaglen gyfoethog o brofiadau allgyrsiol
- Amgylchedd dysgu cyffrous
- Addysgu ysbrydoledig
- Deunyddiau dysgu sy'n ysgogi'r meddwl
- Dull ymchwiliol o addysgu a dysgu
- Ethos cefnogol sy'n herio cyflawniad ac yn rhoi anogaeth.
Partneriaeth iach rhwng yr ysgol, y cartref a'r gymuned.
Fel cymuned ddysgu byddwn yn:
- Datblygu gweledigaeth a rennir sy'n canolbwyntio ar ddysgu pob myfyriwr
- Ymdrechu i wella'n barhaus ym mhopeth a wnawn
- Creu a chefnogi cyfleoedd dysgu parhaus i bawb
- Sefydlu diwylliant o ymchwilio, arloesi ac archwilio
- Darparu rheolaeth agored, gadarn ac effeithiol