Cwricwlwm i Gymru
Mae addysg yng Nghymru’n newid wrth i’r Cwricwlwm i Gymru cael ei gyflwyno. Mae Ysgol Gymraeg Ystalyfera-Bro Dur wedi chwarae rôl flaenllaw yn datblygu’r cwricwlwm newydd, yn gyntaf fel Ysgol Arloesi ac yna fel un o ddim ond un ar bymtheg o Ysgolion Braenaru. Ar hyd y daith yma rydym ni wedi datblygu gweledigaeth glir ar gyfer ein cwricwlwm arloesol, heriol ac ysgogol.
Sut mae’r cwricwlwm yn newid?
Ein Gweledigaeth Cwricwlwm i Gymru
Hwyluso teithiau unigol dysgwyr ar draws y continwwm dysgu 3-19 i wireddu’r Pedwar Diben yw prif yrrwr ein cynllunio cwricwlwm ar lefel ysgol, adran a dosbarth. Erbyn diwedd eu hamser yn Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur, bydd ein dysgwyr yn:
- Dysgwyr uchelgeisiol, galluog sydd yn barod i ddysgu trwy gydol eu hoes.
- Unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd cyflawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.
- Cyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith.
- Dinasyddion egwyddorol, gwybodus sy’n barod i fod yn ddinasyddion yng Nghymru a’r byd.
Wrth galon ein gweledigaeth cwricwlwm yw arwyddair ein hysgol, ‘Dysgu Gorau Dysgu Byw’. Dyluniwyd ein cwricwlwm i ddatblygu dysgwyr gydol oes hyderus a galluog sydd wedi eu harfogi gyda’r sgiliau a’r wybodaeth i ddod yn gyfranwyr gwerthfawr i gymdeithas.
Mae ein cwricwlwm eang a heriol yn canolbwyntio ar adnabod dysgwyr fel unigolion, gyda diddordebau unigol a phrofiadau amrywiol. Ein nod yw ehangu gorwelion dysgwyr i wireddu eu dyfodol llwyddiannus unigryw a phersonol. Trwy greu diwylliant o ragoriaeth bersonol sy’n herio a chefnogi dysgwyr i ddatblygu’n holistaidd, anelwn at hybu dysgwyr i gymryd perchnogaeth dros eu dysgu eu hunain trwy ddathlu eu llwyddiannau ac adnabod y camau nesaf i barhau i wneud cynnydd.
Yr un mor bwysig yn ein cwricwlwm yw annog dysgwyr i ddangos balchder yn eu ‘cynefin’ gan ddatblygu dealltwriaeth o’r ffactorau sydd wedi llunio’r ardal a sut mae hyn wedi dylanwadu ar eu hunaniaeth bersonol. Mae cwricwlwm newydd Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur yn gwreiddio dysgwyr yn eu hardal leol, ynghyd a’u hannog i edrych tu hwnt ar gyfer cyfleoedd, gan ehangu eu gorwelion a’u datblygu fel Cymry’r dyfodol.
Mae gennym werthoedd a dyheadau pwysig wrth wraidd ein gweledigaeth. Yn Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro-Dur, rydym yn...
(Cliciwch ar y ciplun sod am rhagor o wybodaeth)
Sut mae Cwricwlwm i Gymru wedi strwythuro yn Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur?
Mae ein gweledigaeth yn gyson ar draws y ddau safle a’r continwwm oed, ond mae’r ffordd y mae’r weledigaeth wedi ei weithredu a strwythur y cwricwlwm yn amrywio i ymateb i gyd-destunau'r safleoedd unigol a phrofiadau ac oedran y disgyblion.
Cliciwch ar y safleoedd penodol (dewislen ochr dde) i weld mwy o wybodaeth.