Ein Diogelu Plant
Mae Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur yn ymrwymedig i sicrhau lles a diogelwch pob disgybl. Credwn yn gryf yn hawl pob disgybl i ddysgu mewn amgylchedd gefnogol, ofalgar a diogel er mwyn datblygu’r gred, uchelgais a’r hyder i wireddu eu potensial llawn.
Mae gan yr ysgol weithdrefnau cadarn ar gyfer cadw ein plant yn ddiogel. Rydym yn cydweithio’n agos gyda rhieni ac asiantaethau allanol ac yn dilyn Canllawiau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan ar gyfer diogelu. Mae Polisi penodol gennym sydd i’w gweld ar y wefan o dan yr adran Dogfennau. Polisiau
Mae staff allweddol o fewn yr ysgol yn gyfrifol am faterion sy’n ymwneud ag amddiffyn plant, sydd wedi derbyn hyfforddiant ychwanegol. Y staff allweddol yma yw:
Campws Ystalyfera
- Mrs Delyth Spurway (Dirprwy Bennaeth) – Athro Dynodedig Amddiffyn Plant Uwchradd
- Mrs Louise Edmondson - Athro Dynodedig Amddifyn Plant Cynradd
- Mrs Angharad Lloyd - Dirprwy Athro Dynodedig Cynradd
- Mr Robert Colwell - Dirprwy Athro Dynodedig Cynradd
- Mr Emyr Evans - Dirprwy Athro Dynodedig
- Mrs Rachel Thomas - Dirprwy Athro Dynodedig Uwchradd
- Mrs Hannah Ambler - Dirprwy Athro Dynodedig Uwchradd
- Mr Aled Maddock- Dirprwy Athro Dynodedig Uwchradd
Campws Bro Dur
- Miss Kath Jones - Athro Dynodedig Amddiffyn Plant
- Miss Sioned Jones (Dirprwy Bennaeth) – Dirprwy Athro Dynodedig
- Mrs Gwenllian Dooher - Dirprwy Athro Dynodedig
Mewn achosion difrifol, neu mewn achosion cymhleth, byddwn yn cysylltu gyda Mrs Sam Jones (Swyddog Diogelu Plant ac Oedolion Bregus) o’r Awdurdod Addysg am gyngor a chyfarwyddyd pellach.