Y Diwrnod Ysgol
Ystalyfera Cynradd
Cyfnod Sylfaen
Amser | Sesiwn |
---|---|
8.40am - 10.15am | Cofrestru'r Bore a Gwersi |
10.15am - 10.30am | Egwyl |
10.30am - 11.30am | Gwersi |
11.30am - 12.30pm | Cinio |
12.30pm - 1.45pm | Gwersi |
1.45pm - 1.55pm | Egwyl |
1.55pm - 3pm | Gwersi |
3.00pm | Diwedd y Dydd |
Adran Iau - CA2
Amser | Sesiwn |
---|---|
8.40am - 10.40am | Cofrestru'r Bore a Gwersi |
10.40am - 11.00am | Egwyl |
11.00am - 12.40pm | Gwersi |
12.40pm - 1.30pm | Gwersi |
1.30pm - 3.00pm | Gwersi |
3.00pm | Diwedd y Dydd |
Ystalyfera Uwchradd
Amser | Sesiwn |
---|---|
8.40am | Cofrestru'r Bore |
9.00am | Gwers 1 |
9.50am | Gwers 2 |
10.40am | Egwyl |
11.00am | Gwers 3 |
11.50am | Gwers 4 |
12.40pm | Cinio |
1.30pm | Gwers 5 |
2.20pm | Gwers 6 |
3.10pm | Diwedd y Dydd |
Bro Dur - Dydd Llun i Iau
Amser | Sesiwn |
---|---|
8.45am | Cofrestru'r Bore |
9.05am | Gwers 1 |
10.05am | Gwers 2 |
11.05am | Egwyl |
11.25am | Gwers 3 |
12.25pm | Gwers 4 |
1.25pm | Cinio |
2.15pm | Gwers 5 |
3.15pm | Diwedd y Dydd |
Bro Dur - Dydd Gwener
Amser | Sesiwn |
---|---|
8.45am | Cofrestru'r Bore |
9.05am | Gwers 1 |
10.05am | Gwers 2 |
11.05am | Egwyl |
11.25am | Gwers 3 |
12.25pm | Cinio |
1.15pm | Amser Aur |
3.15pm | Diwedd y Dydd |
Absenoldeb a Phresenoldeb
Rhaid egluro pob absenoldeb pa hyd bynnag bo’r cyfnod. Rhaid hysbysu’r ysgol naill ai drwy galwad ffôn neu trwy rein App Class Charts. Gofynnir i ddisgyblion sy’n cyrraedd yr ysgol yn hwyr (wedi i’r cyfnod gofrestru gau) fynd i’r Swyddfa, lle cofnodir ei enw.
Cynghorir rhieni yn gryf i beidio â mynd â phlant ar wyliau yn ystod y tymor ysgol.
Offer
Offer sylfaenol i ddisgyblion Blwyddyn 7 yw set geometreg (cwmpawd cadarn, dau sgwaren, pren mesur 300 mm a phrotractor), pensil, ysgrifbin (inc neu bêl-bwynt), pensiliau lliw.
Cynghorir disgyblion i beidio â dod ag eiddo drud i’r ysgol.
Ni chaniateir peniau ffelt, Tipp-ex (na hylif tebyg), chwaraewyr cerddoriaeth/dyfeisiau smart na gwm cnoi yn yr ysgol.
Ni chaniateir defnyddio ffonau symudol yn yr ysgol. Bydd ffonau symudol yn cael eu cymryd gan staff a’u cadw yn y swyddfa tan ddiwedd y dydd.
App Class Charts
Rydym yn defnyddio Ap o'r enw Class Charts er mwyn cyfathrebu â rhieni a disgyblion. Mae'r Ap hefyd yn ein galluogi i gadw trac ar ymddygiad disgyblion, gwaith cartref a'u hamserlen. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi cofrestru ar gyfer yr App Class Charts gan mai dyma'r unig ddull o ran gwybodaeth gyda rhieni. Bydd rhieni yn derbyn eu cod unigryw yn ystod y noson wybodaeth blwyddyn 7 a bydd disgyblion yn derbyn eu cod yn ystod yr wythnos gyntaf ym mis Medi.