Prydiau Ysgol
Darperir cinio iach a maethlon ganol dydd yn y Neuadd ac anogir pob disgybl i fanteisio ar y ddarpariaeth hon. Mae gan yr ysgol bolisi o fwyta’n iach ac o hybu iechyd. Arlwyir ciniawau ar system caffeteria ac mae gan ddisgyblion ddewis fwydlen ‘bwyta’n iach’. Telir yn ddyddiol gan y disgyblion yn y Neuadd am y prydau a ddewisir.
Mae £2.90 y dydd yn talu am bryd (gosodedig) digonol, er y medr disgyblion dalu llai neu fwy na’r swm hwn, yn ôl yr hyn a ddewisant. Mae dewis eang o fyrbrydau i’w gael hefyd. Caniateir i ddisgyblion ddod â brechdanau o gartref i’w bwyta yn ystod yr awr ginio a neilltuir lle yn y neuadd ar eu cyfer yn ystod yr awr ginio.
Mae modd i ddisgyblion brynu diod (oer neu gynnes) ynghyd â thost a byrbrydau iachus eraill o 8.15am ymlaen (Caffi’r Graig) ac amser egwyl (Neuadd).
Cinio Rhad
Gellir dod o hyd i wybodaeth am Brydau Ysgol am Ddim yma.
ParentPay
Mae’r system yn golygu nad oes rhaid i fyfyrwyr a staff dalu am brydau ysgol gydag arian parod mwyach. Yn hytrach, maent yn prynu eu prydau a byrbrydau drwy ddefnyddio cod biometrig bys neu gerdyn adnabod personol wrth y til!*
Mae’r system hefyd yn lleihau ciwiau yn ystod amser cinio ac yn darparu prydau ysgol am ddim yn ddienw i ddisgyblion.
Byddwch yn gallu rhoi arian ar gyfrif eich plentyn ar lein gan ddefnyddio carden debit neu credit e.e Visa, neu mae eich plentyn yn gallu rhoi arian parod ar ei gyfrif trwy beiriant ParentPay yn y Neuadd Fawr.
*Er mwyn gallu defnyddio’r system rhaid cael llythyr caniatâd biometreg.
*A Biometric consent form must be completed by parents in order for pupils to use the system. Fodd bynnag, o dan gyfyngiadau presennol Covid, rydym wedi addasu'r system i ddefnyddio cerdyn digyhuddiad. Mae cardiau newydd, os oes angen, ar gael drwy wneud cais drwy eu tiwtor dosbarth.