Cwricwlwm CA4 Ystalyfera
Mae’r cwricwlwm CA4 campws Ystalyfera yn gwricwlwm cytbwys sy'n cynnwys elfen o bynciau statudol craidd a phynciau dewisol.
Mae pob disgybl yn dilyn 9 pwnc craidd, sef Cymraeg Iaith, Cymraeg Llenyddiaeth, Saesneg Iaith, Saesneg Llenyddiaeth, Mathemateg, Rhifedd, Gwyddoniaeth ddwbl ar BAC Cymreig.
Bydd angen i bob disgybl dewis 3 pwnc dewisol yn ychwanegol i’r pynciau statudol. Mae’r proses o ddewis y pynciau dewisol yma yn dechrau ym Mis Ionawr blwyddyn 9. Bob blwyddyn rydym yn addasu ein colofnau opsiwn i'r anghenion yw gofynion disgyblion o fewn y cohort.
Pynciau dewisol Lefel 2 galwedigaethol neu TGAU - Addysg Gorfforol, Daearyddiaeth, Astudiaethau Crefyddol, Celf, Cerdd, Drama, DT, Ffrangeg/Almaeneg, Hanes, Technolegau Digidol, Cyfrifiadureg neu Galwedigaethol Lefel 2 - Lletygarwch, Busnes, a Gwasanaethau Cyhoeddus.
Plîs cyfeiriwch at y fideos gwybodaeth / adrannol sydd o dan y gwefan dewisiadau CA4 yn y linc isod.
2024 - Gwefan Dewisiadau
*Plîs Nodwch fod raid i bob disgybl ymateb i'r ffurflen ddewisiadau ar ddiwedd gwefan opsiynau gyda'u 3 dewis erbyn 20/02/2024. Bydd y ffurflen yn agor ar ddiwedd y noson opsiynau ar-lein.