Cwricwlwm CA4 Bro Dur
Mae Cwricwlwm CA4 ar Gampws Bro Dur yn gwricwlwm cytbwys sy'n cynnwys elfennau o bynciau statudol craidd a phynciau dewisol.
Ym mlwyddyn 9 bydd disgyblion yn astudio 12 pwnc gorfodol: Cymraeg, Saesneg, Mathemateg, Gwyddoniaeth, Astudiaethau crefyddol, Celf a dylunio, Celfyddydau Mynegiannol, Daearyddiaeth, Hanes, Iechyd a lles, Ieithoedd tramor modern a STEM. Bydd pob disgybl blwyddyn 9 hefyd yn dewis 1 pwnc dewisol o golofn A. Mae'r broses hon yn dechrau'n gynnar ym mis Ionawr ym Mlwyddyn 8. Bob blwyddyn rydym yn addasu ein colofnau dewis i'r anghenion a gofynion disgyblion o fewn y cohort.
Bydd disgyblion blwyddyn 10 yn dilyn 9 pwnc statudol craidd. Y pynciau yw: Cymraeg (Iaith), Cymraeg (Llenyddiaeth), Saesneg (Iaith), Saesneg (Llenyddiaeth), Mathemateg, Rhifedd, Gwyddoniaeth ddwbl, a'r BAC Cymreig.
Bydd pob disgybl blwyddyn 10 hefyd yn dewis 3 phwnc dewisol, un o bob colofn opsiwn. Mae'r broses hon yn dechrau'n gynnar ym mis Ionawr ym Mlwyddyn 9. Bob blwyddyn rydym yn addasu ein colofnau dewis i'r anghenion a gofynion disgyblion o fewn y cohort.
Cwblheir pynciau yng ngholofn A mewn blwyddyn (naill ai blwyddyn 9 neu 10), tra bod pynciau yng ngholofn B &C wedi'u cwblhau dros ddwy flynedd (blwyddyn 10 ac 11).
Mae pynciau dewisol naill ai'n gymhwyster galwedigaethol Lefel 2 neu TGAU- Dyma'r colofnau opsiwn ar gyfer Medi 2022 - Haf 2024.
Dolen i wefan gwybodaeth colofnau opsiynau: 2022 - Gwefan dewisiadau Bro Dur