Cwricwlwm CA5
Ymunwch â Chweched Dosbarth
- Canolfan o ardderchogrwydd sy’n rhyddhau potensial myfyrwyr trwy ddarparu’r addysg orau a sgiliau bywyd effeithiol, fydd yn caniatau iddynt wireddu eu huchelgais naill ai trwy Addysg Bellach neu ym myd Gwaith.
- Canolfan sy’n datblygu myfyrwyr sydd ag agwedd aeddfed a chyfrifol, trwy weithredu fel modelau rôl tu mewn a thu allan i gymuned yr Ysgol mewn gweithgareddau amrywiol.
- Canolfan ble ystyrir gwasanaeth i’r Ysgol a’r gymuned ehangach yn unol â llwyddiant academaidd sydd wrth wraidd yr ethos o ardderchogrwydd.
Cwrciwlwm CA5
Cliciwch ar y linc isod i gael mynediad i wefan dewisiadau llynedd. Mae’n cynnwys gwybodaeth am y cyrsiau sydd ar gael yn y chweched ynghyd â chyflwyniadau fideo gan arweinwyr y pynciau.
*Plîs Nodwch fod raid i bob disgybl ymateb i'r ffurflen ddewisiadau ar ddiwedd gwefan opsiynau gyda'u 3 dewis erbyn 21/02/2024. Rhaid i bob disgybl ymateb hyd yn oed os nad ydyn nhw'n bwriadu dychwelyd i'r chweched dosbarth. Bydd y ffurflen yn agor yn ystod y noson dewisiadau ar 07/02/2024.
Paratoi i'r Dyfodol
Mae paratoi’n drylwyr i’r dyfodol, naill ai i gyflogaeth, hyfforddiant neu Addysg Uwch yn rhan hanfodol o gyfrifoldeb canolfan Gwenallt i’w myfyrwyr. Mae hyn yn cynnwys:
- Rhaglen o Addysg Bersonol a Chymdeithasol
- Dilyn cymhwyster Bagloriaeth Cymru
- Ysgrifennu datganiadau personol a CV gydag arweiniad Prifysgolion gwahanol
- Ymgynghorydd Gyrfaoedd o Yrfa Cymru
- Cyswllt agos gyda Menter Iaith Nedd Port Talbot
- Siaradwyr gwadd.
- Siaradwyr o brifysgolion
- Ffair addysg uwch
- Cyngor a chefnogaeth i baratoi am gyfweliadau
- Cyfweliadau ffug
- Ystod eang o gyfleodd allgyrsiol
- Paratoadau trylwyr i broses UCAS
- Cymorth i gwblhau ceisiadau UCAS ac eraill
- Cyswllt agos gyda’r tiwtoriaid bob dydd
- Monitro manwl o waith y myfyrwyr
- 3 Adroddiad ym Mlwyddyn 12 a 13
- Nosweithiau rhieni
- Cyfweliadau personol gyda’r uwch dim.
- Cyfle i astudio’n breifat
- Rhwydwaith Seren
Rhwydwaith Seren
Crëwyd y Rhwydwaith Seren gan Lywodraeth Cymru i gefnogi myfyrwyr mwyaf disglair Cymru i gyflawni eu potensial academaidd. Gan gynnig amrywiaeth o weithgareddau academaidd, bydd y Rhwydwaith Seren yn rhoi gwybodaeth, profiad a chefnogaeth i helpu myfyrwyr gyflwyno ceisiadau llwyddiannus i'n prifysgolion gorau.
Bydd athrawon o ysgolion a cholegau yr ardal yn cydweithio i gyflwyno rhaglen gydlynol o weithgareddau i fyfyrwyr ein ysgol a myfyrwyr lleol eraill. Bwriad y rhain yw ymestyn a herio y tu hwnt i'r cwricwlwm safon uwch, a rhoi cyfle i wella gwybodaeth pynciol gyda grŵp cyfoedion o fyfyrwyr eraill. Bydd staff o brifysgolion blaenllaw'r DU, gan gynnwys Rhydychen a Chaergrawnt, yn sicrhau fod myfyrwyr yn cael y wybodaeth, cyngor a'r gefnogaeth ddiweddaraf wrth wneud penderfyniadau am brifysgolion a chyrsiau.