Gwaith Gwych
Yn Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur, rydym yn ymfalchïo yn y gwaith gwych mae ein disgyblion yn cyflawni boed yn waith ysgrifenedig, llafar, creadigol neu ymarferol.
Mae egwyddorion asesu ar gyfer dysgu yn ganolog i’n gynlluniau gwaith, lle mae disgyblion yn dysgu’r sgil o hunan asesu a defnyddio adborth er mwyn dathlu eu llwyddiannau ac adnabod camau i wella er mwyn anelu’n uchel a chreu gwaith graenus.
Ein nod yw datblygu balchder disgyblion yng ngwaith eu hunain trwy roi’r her, cefnogaeth a’r adnoddau iddynt greu gwaith o’r safon gorau posib.
Isod, gwelwch fideo gyda chasgliad o waith gwych y mae’r athrawon a disgyblion wedi ymfalchïo ynddynt: