Pontio
Mae disgyblion newydd Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur yn ymgartrefu'n gyflym ac yn adeiladu ar eu dysgu blaenorol, diolch i berthynas gadarnhaol gydag ysgolion cynradd y clwstwr.
Mae'r ysgol bob amser wedi mwynhau perthynas gynhyrchiol â'r ysgolion cynradd partner yn ei chlwstwr ac mae hyn wedi datblygu ymhellach yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae'r Pennaeth a'r Pennaeth Cynorthwyol yn cyfarfod â holl Benaethiaid yr ysgolion clwstwr bob hanner tymor i drafod pontio ar gyfer disgyblion sy'n dechrau yng nghyfnod allweddol 3.
Mae gennym weledigaeth strategol a dyhead cryf i ddatblygu'r bartneriaeth sydd eisoes yn bodoli yn y dalgylch er mwyn budd ein disgyblion, ein staff a’n gymuned. Un o’n prif ffocysau yw ein Siarter Iaith a’n hymrwymiad i sicrhau dilyniant ieithyddol cadarn i’r holl ddisgyblion.
Trwy ein rhaglen drosglwyddo cyd-lynus, ein partneriaeth gref a’n hymrwymiad i sicrhau’r profiadau gorau i’n disgyblion, mae eich plentyn mewn dwylo da.
Ysgolion Clwstwr Ysgol Gymraeg Ystalyfera:
Ysgolion Clwstwr Ysgol Gymraeg Bro Dur:
Defnyddiwch y dolenni ar yr ochr dde i lywio drwy ein rhaglenni ysgolion clwstwr.